Bu disgyblion y Chweched ar daith breswyl i Brifysgol Aberystwyth yr wythnos hon. Dyma hanes y profiad yn ôl tri o'n disgyblion...
Aeth grŵp o’r chweched i Brifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth a ddydd Mercher ar gyfer taith breswyl. Cawsom gyfle i flasu bywyd prifysgol trwy fynychu darlithoedd amrywiol fel Bioleg, Amaeth a Seicoleg. Yn y darlith Bioleg cawsom gyfle i wneud gwaith ymarferol ar DNA trwy ddefnyddio cyfarpar gwyddonol newydd i ni fel disgyblion chweched.
Hefyd gwaith ymarferol oedd yn Amaeth trwy chwilio a dysgu am barisitiaid mewn dom anifeiliaid fferm, roedd yn hynod o ddiddorol! Yn y darlith Seicoleg buom yn ymchwilio yr effaith o dynnu sylw person tra ei fod yn gyrru a chawsom y siawns i ddefnyddio cyfarpar digidol ac ymweld â’r adran Seicoleg. Ar ôl swper blasus yn Y Llew Du buom yn treulio’r noson yn Neuadd Penbryn.
Gwaith BAC oedd y ffocws bore dydd Mercher gan ddefnyddio un o ystafelloedd cyfrifiadurol modern y Brifysgol. Fel grŵp cawsom lawer o hwyl dros y ddau ddiwrnod a chyfle gwerthfawr i flasu bywyd prifysgol. Diolch i Mrs Morgan am drefnu’r cyfle.
Esyllt Jones
Tra’n ymweld â Phrifysgol Aberystwyth, cefais gyfle i fynychu sesiynau ar Wleidyddiaeth Ryngwladol, y Gyfraith a Chriminoleg, a Theatr a Pherfformio. Roedd yn ddiddorol iawn clywed am y gwahanol gyrsiau, a chael cipolwg ar sut mae cyrsiau prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg yn edrych.
Hoffais sut nad oedd y darlithwyr yn eistedd ac yn siarad tuag atom drwy’r amser, ond yn ein dal ni’n effro ac yn ein hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a ‘gemau’. Roedd y sesiwn Gwleidyddiaeth yn un hir a oedd yn sôn am y gwahaniaeth rhwng cenedl a gwladwriaeth, a sut mae arbenigwyr yn anghytuno ar y manylion manwl. Fe wnaeth hyn fy annog i ddatblygu barn ar rywbeth nad oeddwn erioed wedi ystyried o’r blaen. Gorffenwyd y sesiwn gyda thasg greadigol oedd yn ymwneud â’r ddadl.
Roedd y sesiwn Gyfraith a Chriminoleg yn un ddiddorol iawn gyda dau siaradwr gwahanol yn trafod gyda ni. Cawson ni drafodaeth am broblemau moesegol a chyfreithiol sy’n gallu codi gyda digwyddiadau mawr fel Glastonbury, gan wneud gwaith grŵp, ac wedyn esboniad o’r gwahanol fathau o gyfraith a’u hystyr. Unwaith eto, daeth y sesiwn i ben gyda gweithgaredd lle roedd yn rhaid i ni benderfynu a oedd unigolyn mewn sefyllfa ffuglenol yn euog yn gyfreithiol ai peidio.
Yn ystod y sesiwn Theatr a Pherfformio, edrychom yn fanwl ar olygfa benodol o 'King Lear' gan Shakespeare, lle roedd un cymeriad yn twyllo cymeriad arall. Wedyn, roedd yn rhaid i ni benderfynu pa benderfyniadau y gallem eu cymryd fel actorion i gyfleu’r olygfa orau.
Ar ôl diwrnod hwyl ond prysur o drafodaethau, gweithgareddau a chrwydro’r dref, aethom i’r Llew Du i gael swper ac ymlacio. Roedd y bwyd yn arbennig, ac ar ôl gorffen, fe wnaethom gwis dafarn llawn cystadleuaeth.
Ar yr ail ddiwrnod cafwson ni’r cyfle i ddefnyddio un o ystafelloedd gyfrifaduron y brifysgol i wneud ychydig o’n gwaith BAC ar gyfer blwyddyn nesaf! Ar y cyfan, roedd y daith i Aberystwyth yn un hwyl iawn ac yn gyfle i fwynhau gyda ffrindiau, tra’n dysgu mwy am fywyd prifysgol ar yr un pryd.
Peredur Llywelyn
Yn bersonol gwnes i fwynhau'r profiad o fynd i ymweld â Phrifysgol Aberystwyth yn fawr iawn! Mynychais y sesiynau ar gyfer Bioleg, Amaethyddiaeth a Drama lle cefais flas ar y pynciau gan wneud arbrofion a gweithgareddau ymarferol.
Yn y sesiwn Bioleg cawsom wneud arbrawf ar ddarganfod DNA drwy wneud echdyniad DNA. Roedd cael defnyddio’r holl gyfarpar gwahanol a newydd mewn labordy o safon yn brofiad gwych! Yna yn y sesiwn Amaethyddiaeth ymchwilon drwy ficrosgop ar garthion defaid i weld wyau a pharasitiaid yn eu carthion, roedd hyn wir yn ddiddorol! Hanes King Lear oedd yn dylanwadu ar ein sesiwn gyda’r adran Ddrama, wrth i ni lwyfannu’r olygfa erchyll pan mae King Lear am gyflawni hunan laddiad. Profiad hollol deimladwy wrth i bob un gael cyfle i roi teimlad gwahanol wrth lwyfannu’r olygfa.
Ar ddiwedd y dydd aeth criw'r Chweched i dafarn ‘Y Llew Du’ am bryd o fwyd blasus a chwis diddorol a hwylus. Ar yr ail ddiwrnod cawsom y cyfle arbennig i ddefnyddio cyfarpar y Brifysgol i wneud ychydig o waith BAC ar gyfer ein cwrs yn yr ysgol, roedd pawb yn hynod ddiolchgar o’r cyfle yma ac yn manteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r cyfarpar modern.
Roedd y diwrnodau yma wedi rhoi blas realistig iawn o fywyd yn y Brifysgol i ni fel criw, cafodd bob un ohonom brofiad hyfryd, diolch i bob un wnaeth drefnu!
Alaw Evans
Ym mis Rhagfyr, cafodd ein disgyblion ym mlwyddyn 9 y cyfle i gymryd rhan yn yr Her 'Tasty Careers.'
Yr her eleni oedd i weithio mewn timau i ddylunio naill ai gynnyrch bwyd neu ddiod iach newydd wedi’i wneud o gymaint o gynnyrch Cymreig â phosibl. Roedd y briff yn nodi bod gwneuthurwr bwyd a diod adnabyddus wedi cysylltu â'r disgyblion yn gofyn iddyn nhw feddwl am gynnyrch newydd sydd â buddion iechyd clir, sy’n gynaliadwy ac sydd hefyd yn gynnig masnachol gwych. Byddai angen i’r cynnyrch fod yn wreiddiol, gydag enw brand, logo a slogan gwreiddiol ac, yn ddelfrydol, byddai angen ei gyflwyno mewn pecyn 500g/ml. Roedd angen iddyn nhw gyflwyno’u syniad i banel o feirniaid hefyd. Croesawyd Rhian a Phoebe o Ganolfan Bwyd Cymru i feirniadu, ac maen nhw wedi bod yn mentora'r grŵp buddugol ar gyfer y rownd nesaf.
Merched Mêl oedd yn fuddugol yn y rownd ysgol ac fe gynrychiolon nhw'r ysgol ddydd Gwener diwethaf. Dymunwn yn dda iddyn nhw wrth iddyn nhw gystadlu yn y rownd derfynol fis nesaf ym Mharc y Sgarlets. Gwych ferched!
“Profiad bythgofiadwy,” yn ôl Peredur Llywelyn, disgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Bro Teifi, oedd taith diweddar yr ysgol i Efrog Newydd a Washington. Cawson nhw fodd i fyw yn ymweld â holl brif atyniadau Efrog Newydd mewn deuddydd ac yna tawelwch a phrydferthwch Washington!
Dechreuon nhw ar eu taith yn ymweld â chartref John Lennon a Central Park, ymlaen wedyn i Rockafella Center a Time Square. Cawson nhw’r cyfle i weld sioe gerdd ‘Six’ ac yn ôl Mari Thomas, disgybl arall o flwyddyn 12, “Roedd hwn yn brofiad a hanner!” Aethon nhw ar daith i Ynys Liberty, lle gwelson nhw’r cerflun enwog 93 metr o uchder a roddwyd i America yn 1886. Bu tawelwch yr Amgueddfa Cofio 9/11 yn brofiad ysgytwol lle cawson y cyfle i weld ffilm o’r digwyddiad trist. Yn anffodus ni ddaeth cyffwrdd â’r ‘charging bull’ a Wall Street ag unrhyw lwc iddyn nhw ond yr oedd yn hynod ddiddorol am fod nifer o’r disgyblion yn astudio Busnes a Hanes i Lefel A. Roedd gweld y ddinas ar ei gorau yn y nos o gopa One World Observatory wir werth ei wneud.
Gorffennwyd y daith o gwmpas Efrog Newydd yn Soho cyn iddyn nhw ddechrau ar eu taith i Washington. Ar y ffordd i Washington fe wnaethon nhw aros yn gyflym yn Philadelphia i redeg i fyny yr enwog ‘Rocky Steps’, un o’r lleoliadau ffilmio enwocaf. Cafwyd llun cyflym o gerflun a grëwyd ar gyfer golygfa yn y ffilm Rocky III.
Treuliwyd eu diwrnod cyntaf yn Washington gyda thywysydd gwybodus iawn yn ymweld â llawer o henebion a chofebion enwog gan gynnwys cofeb Lincoln, cofeb Jefferson, cofeb Fietnam ac i goroni’r cyfan, cofeb un o arwyr y disgyblion, Martin Luther King. Aethon ymlaen i Amgueddfa’r Archifau Cenedlaethol lle gwelson y dogfennau ‘Charter of Freedom’ ynghyd ag un o’r pedwar copi gwreiddiol o’r Magna Carta.
Aeth eu tywysydd â nhw wedyn i fynwent Arlington, ymwelon nhw â beddrod y Milwr Anhysbys a gweld seremoni newid y gwarchodwyr. Roedd eu taith i Capitol Hill yn ddiddorol ac yn addysgiadol iawn, dyna lle mae’r Senedd a Thŷ’r Cynrychiolwyr yn llunio cyfreithiau’r wlad. Ac yn olaf oll fe dreulion nhw rai oriau yn Llyfrgell y Gyngres ac Amgueddfa Hanes Cenedlaethol.
Yn ôl Alaw Evans, disgybl blwyddyn 12, “Bu’r profiad yn wirioneddol anhygoel ac mae’n diolch yn fawr i’r ysgol a’r staff a roddodd eu hamser i fynd â ni ar y daith unwaith mewn bywyd yma.”
Diolch hefyd i gwmni Delineate am noddi'r hwdis.
gan Mari Thomas , Peredur Llywelyn ac Alaw Evans
Wythnos ddiwethaf fe ddaeth yr artist Meinir Mathias mewn i siarad gyda dosbarthiadau Celf blwyddyn 8 fel rhan o waith y tymor. Cafwyd cyflwyniad diddorol ac addysgiadol am gynnwys ei gwaith, ei harddulliau o weithio a'i phrofiad fel artist proffesiynol. Cafwyd cyfle i holi cwestiynau ac i drafod ei gwaith yn seiliedig ar hanes Merched Beca. Edrychwn ymlaen at weld sut fydd darnau celf Meinir yn ysbrydoli gwaith ein disgyblion y tymor hwn.
Cafodd ein disgyblion Blwyddyn 13 eu diwrnod ffug gyfweliad heddiw, gan eu paratoi ar gyfer eu camau nesaf boed i'r brifysgol, coleg, prentisiaeth neu i fyd gwaith. Croesawyd pobl o amrywiaeth o sectorau i gynnal y ffug gyfweliadau: Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Coleg Ceredigion, Y Brifysgol Agored, Mentera a Golwg. Roedden nhw i gyd yn canmol ein disgyblion ar ddiwedd y cyfweliadau.
Daeth staff Profi/Meneter Gorllewin Sir Gâr i'r ysgol heddiw a dydd gwener diwethaf i'n cynorthwyo i baratoi ein disgyblion blwyddyn 11 ar gyfer byd gwaith. Dyma'r cyntaf mewn cyfres o weithgareddau sydd yn rhan o bartneriaeth rhwng yr ygsol a Profi.
Heddiw, cofrestrodd y disgyblion ar wefan Profi a chwblhau cwis sgiliau. Roedd hyn fel paratoad ar gyfer y gweithdy ysgrifennu CV y bydd blwyddyn 11 yn rhan ohoni cyn gwyliau hanner tymor. Yna, bydd y CVs yn cael eu defnyddio yn ffug gyfwelidau blwyddyn 11 ym mis Ionawr.
Ar y cyntaf o Hydref, aeth grŵp TGAU Daearyddiaeth blwyddyn 11 i wneud gwaith maes yn nhref Caerfyrddin. Yno fe wnaethant amrywiaeth o waith maes megis cyfrif llif cerddwyr, cynnal arolwg mathau o siopau a gwasanaethau, ac arolwg ansawdd amgylcheddol dau begynol, yn ogystal â chael atebion i holiaduron. Dydd da gyda’r disgyblion yn archwilio’n wych!
Thema y tymor hwn yw “Ar stepen ein drws”.
Yn ystod wythnos gyntaf tymor yr Hydref cynlluniwyd map meddwl gyda disgyblion Bargod er mwyn darganfod yr hyn maent yn dymuno ddysgu. Dymuniad y disgyblion oedd i ddysgu mwy am gysgaduriaid ac yn ystod y tymor mi fyddwn yn ateb rhai o’r cwestiynau a oedd ganddynt ynghylch cysgaduriaid. Prif ffocws y tymor hwn o fewn ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu fydd datblygu sgiliau darllen ac atalnodi ac mi fydd sesiynau hwylus Tric a Chlic yn rhan newydd o gwricwlwm Bro Teifi. O fewn Mathemateg a Rhifedd byddwn yn canolbwyntio ar adnabyddiaeth y disgyblion o rif, gwerth lle ac adnabyddiaeth o siapiau 2D a 3D. Gweler isod gopi o’r map meddwl a grëwyd ar y cyd gyda’r disgyblion.
Mae'r disgyblion wedi bod yn dysgu a defnyddio idiomau Cymraeg yn y gwersi. Dyma nhw yn perfformio eu hoff idiomau.
Mae'r disgyblion wedi bod yn dysgu a defnyddio idiomau Cymraeg yn y gwersi. Dyma nhw yn perfformio eu hoff idiomau.
Mae'r disgyblion wedi bod yn dysgu a defnyddio idiomau Cymraeg yn y gwersi. Dyma nhw yn perfformio eu hoff idiomau.
Ar brynhawn Mercher 25ain o Hydref, cynhaliwyd Yr Oriel Odidog yn neuadd yr ysgol. Roedd hwn yn gyfle i ddisgyblion Derbyn i Flwyddyn 2 arddangos eu campweithiau celf y maent wedi bod yn paratoi yn ystod yr wythnosau diwethaf. Thema'r Dysgu Sylfaen yn ystod yr hanner tymor cyntaf oedd ‘Fi Sy’n Bwysig’ a bu’r disgyblion yn datblygu eu sgiliau arlunio trwy ddarlunio hunan bortread. Hyfryd oedd cael gwahodd teuluoedd y disgyblion i’r neuadd er mwyn gwerthfawrogi’r gwaith ynghyd â phrynu’r lluniau.
Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth.
#dysgwyrmentrusachreadigol