Mae dosbarth Gwenffrwd yn ddosbarth i ddisgyblion blwyddyn 5. Ar y dudalen cewch wybodaeth am yr hyn byddwn yn astudio yn ystod y flwyddyn ynghyd a gweld enghreifftiau o rai o weithgareddau'r dosbarth.
Ein thema y tymor hwn yw 'Ar ein stepen drws' lle byddwn yn edrych ar yr hyn sydd gan Llandysul i'w gynnig fel cymuned. Byddwn yn ymestyn y thema hon ymhellach yn ystod yr ail hanner tymor drwy edrych ar hanes Patagonia a pham y penderynodd pobl ymfudo i'r wlad hon yn 1865 a chymharu a chyferbynnu'r cymunedau yma yng Nghymru ac ym Mhatagonia heddiw.
Gall y plant ddod i'r ysgol yn eu gwisg ymarfer corff ar ddiwrnodau Addysg Gorfforol.


Mae'r disgyblion wedi bod yn dysgu a defnyddio idiomau Cymraeg yn y gwersi. Dyma nhw yn perfformio eu hoff idiomau.
Mae'r disgyblion wedi bod yn dysgu a defnyddio idiomau Cymraeg yn y gwersi. Dyma nhw yn perfformio eu hoff idiomau.