Mae dosbarth Collen yn ddosbarth i flwyddyn 3. Ar y dudalen cewch wybodaeth am yr hyn byddwn yn astudio yn ystod y flwyddyn ynghyd a gweld enghreifftiau o rai o weithgareddau'r dosbarth.
Gall y plant ddod i'r ysgol yn eu gwisg ymarfer corff ar ddiwrnodau Addysg Gorfforol.
Thema’r Tymor
Ein thema y tymor hyn yw ‘Ar Stepen ein Drws’ ac yn ystod y tymor byddwn yn astudio bywyd y Celtiaid, arbrofi â defnyddiau gwahanol ac edrych ar adeiladau yn Llandysul ac yn ehangach.
Gwaith Cartref
Af gyfer y tymor hwn, eich gwaith cartref bydd darllen yn rheolaidd, dysgu synau llythrennau yn Saesneg (atodir taflen isod), ac yna ymarfer eich sgiliau tablau ar TT Rock Stars. Mae croeso i chi hefyd ddarllen llyfrau Cymraeg ar wefan Darllen Co gan ddefnyddio eich manylion HWB i fewngofnodi.

Mae'r disgyblion wedi bod yn dysgu a defnyddio idiomau Cymraeg yn y gwersi. Dyma nhw yn perfformio eu hoff idiomau.