Dyniaethau

Gall Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau gynnau ymdeimlad o ryfeddod, tanio dychymyg ac ysbrydoli dysgwyr i dyfu mewn gwybodaeth, dealltwriaeth a doethineb. Mae’r Maes hwn yn ysgogi dysgwyr i ymwneud â’r materion pwysicaf sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys cynaladwyedd a newid cymdeithasol, ac yn gymorth i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli a disgrifio’r gorffennol a’r presennol.

Mae’r Maes hwn yn cwmpasu daearyddiaeth; hanes; crefydd, gwerthoedd a moeseg; astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Mae’r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ond hefyd mae ganddyn nhw eu corff penodol eu hunain o wybodaeth a sgiliau. Yn ogystal, gall dysgwyr gael eu cyflwyno i ddisgyblaethau cysylltiedig eraill, megis y clasuron, economeg, y gyfraith, athroniaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg a chymdeithaseg, os a lle bydd hynny’n briodol.

Yn ein dosbarthiadau oed cynradd, mae'r dyniaethau yn cael eu dysgu yn bennaf mewn dull thematig cyn iddynt yna symud i ddull mwy disgyblaethol o ddysgu wrth bontio i flwyddyn 7.  Mae'r pynciau yn cael eu hamserlenni ar wahan ond, lle ceir cyfle i wneud cysylltiadau a'u bod nhw'n rhai dilys, gwneir cysylltiadau ar draws y dyniaethau. 

Mae'r gyfadran ddyniaethau ag adnoddau da ac yn sicrhau cyfleoedd arbennig i ddysgwyr i ymwneud a chyfleoedd allgyrsiol megis teithiau ysgol, gwaith maes a gwahodd siaradwyr gwadd i mewn i'r ysgol. 

Gweithgaredd Diweddaraf
  • Gwaith Maes Daearyddiaeth

    01 Hydref 2024 - 13:00
    yr 11
    DYNIAETHAU

    Ar y cyntaf o Hydref, aeth grŵp TGAU Daearyddiaeth blwyddyn 11 i wneud gwaith maes yn nhref Caerfyrddin. Yno fe wnaethant amrywiaeth o waith maes megis cyfrif llif cerddwyr, cynnal arolwg mathau o siopau a gwasanaethau, ac arolwg ansawdd amgylcheddol dau begynol, yn ogystal â chael atebion i holiaduron. Dydd da gyda’r disgyblion yn archwilio’n wych!

    Gallery 1
    Gallery 2
    Gallery 3
    Gallery 4
    Gallery 5
    Gallery 6
    Gallery 7
  • Oes y Tuduriaid - Gwneud Modelau!

    20 Mawrth 2023 - 11:10
    yr 8
    DYNIAETHAU

    Dyma fodelau rhai o ddisgyblion blwyddyn 8 sydd wedi bod yn astudio bywyd yn Oes y Tuduriaid. Diolch yn arbennig iddyn nhw am eu hymdrech ac am arddangos eu gallu creadigol!

    Gallery 1
    Gallery 2
    Gallery 3
    Gallery 4
    Gallery 5
    Gallery 6
    Gallery 7
    Gallery 8

Gweld holl Weithgareddau