Gall Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau gynnau ymdeimlad o ryfeddod, tanio dychymyg ac ysbrydoli dysgwyr i dyfu mewn gwybodaeth, dealltwriaeth a doethineb. Mae’r Maes hwn yn ysgogi dysgwyr i ymwneud â’r materion pwysicaf sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys cynaladwyedd a newid cymdeithasol, ac yn gymorth i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli a disgrifio’r gorffennol a’r presennol.
Mae’r Maes hwn yn cwmpasu daearyddiaeth; hanes; crefydd, gwerthoedd a moeseg; astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Mae’r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ond hefyd mae ganddyn nhw eu corff penodol eu hunain o wybodaeth a sgiliau. Yn ogystal, gall dysgwyr gael eu cyflwyno i ddisgyblaethau cysylltiedig eraill, megis y clasuron, economeg, y gyfraith, athroniaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg a chymdeithaseg, os a lle bydd hynny’n briodol.
Yn ein dosbarthiadau oed cynradd, mae'r dyniaethau yn cael eu dysgu yn bennaf mewn dull thematig cyn iddynt yna symud i ddull mwy disgyblaethol o ddysgu wrth bontio i flwyddyn 7. Mae'r pynciau yn cael eu hamserlenni ar wahan ond, lle ceir cyfle i wneud cysylltiadau a'u bod nhw'n rhai dilys, gwneir cysylltiadau ar draws y dyniaethau.
Mae'r gyfadran ddyniaethau ag adnoddau da ac yn sicrhau cyfleoedd arbennig i ddysgwyr i ymwneud a chyfleoedd allgyrsiol megis teithiau ysgol, gwaith maes a gwahodd siaradwyr gwadd i mewn i'r ysgol.
Ar y cyntaf o Hydref, aeth grŵp TGAU Daearyddiaeth blwyddyn 11 i wneud gwaith maes yn nhref Caerfyrddin. Yno fe wnaethant amrywiaeth o waith maes megis cyfrif llif cerddwyr, cynnal arolwg mathau o siopau a gwasanaethau, ac arolwg ansawdd amgylcheddol dau begynol, yn ogystal â chael atebion i holiaduron. Dydd da gyda’r disgyblion yn archwilio’n wych!