Celfyddydau Mynegiannol

Gall natur ddeinamig y celfyddydau mynegiannol ysgogi ac ennyn diddordeb dysgwyr a’u cymell i ddatblygu i’r eithaf eu sgiliau creadigol ac artistig ynghyd â’u sgiliau perfformio.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol (Maes) yn cwmpasu pum disgyblaeth, sef celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm a’r cyfryngau digidol. Er bod gan bob un o’r disgyblaethau hyn gorff o wybodaeth a chorff o sgiliau sy’n perthyn yn benodol i’r ddisgyblaeth honno, cydnabyddir eu bod, gyda’i gilydd, yn rhannu’r broses greadigol.

Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi’i fynegi mewn tri datganiad, sy’n cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried fel datganiadau ar wahân. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Mae dysgu a phrofiad yn y Maes hwn yn annog datblygu gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd fydd o gymorth i ddysgwyr ddal ar bob cyfle fydd yn codi yn eu bywydau, gan wynebu’r heriau.

Boed fel rhai sy’n creu neu fel rhan o gynulleidfa, trwy ymwneud â’r celfyddydau mynegiannol gall dysgwyr ddod i ddeall a gwerthfawrogi diwylliannau a chymdeithasau yng Nghymru a’r byd. Trwy hyn gall dysgwyr feithrin sgiliau i archwilio amrywiaeth ddiwylliannol mewn lleoedd a chyfnodau gwahanol.

Mae’n bwysig fod y Maes yn anelu at sicrhau bod y celfyddydau mynegiannol yn agored i bob dysgwr, a thrwy’r dull cynhwysol hwn, ehangu gorwelion pob un ohonyn nhw.

Gall profi’r celfyddydau mynegiannol gynnau diddordeb dysgwyr yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. O ganlyniad bydd eu lles, eu hunan-barch a’u gwydnwch yn cael eu meithrin. Bydd hyn o gymorth iddyn nhw ddod yn unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Gall profiadau yn y celfyddydau mynegiannol hefyd annog dysgwyr i ddatblygu eu gallu i werthfawrogi gwaith creadigol pobl eraill yn ogystal â’u talentau creadigol a’u sgiliau artistig a pherfformio eu hunain. Y nod yw cynnig cyfleoedd i ddysgwyr archwilio, mireinio a chyfathrebu syniadau gan feddwl yn greadigol a defnyddio’r dychymyg a’r synhwyrau.

Mae ymwneud â’r Maes hwn yn gofyn am ymroddiad personol, dyfalbarhad a sylw manwl i fanylion, rhinweddau sy’n cyfrannu at wneud dysgwyr yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol  eu hoes.

Gall profiadau yn y Maes hwn ysbrydoli a chymell dysgwyr gan eu bod yn rhoi cyfle iddyn nhw ddod i gyswllt â phrosesau creadigol. Golyga hyn gynnig cyfleoedd i ddysgwyr gael profiadau megis ymweld â theatrau ac orielau, ac i ddod ag arbenigedd ymarferwyr allanol i mewn i’r ystafell ddosbarth.

Gall ymwneud â’r celfyddydau mynegiannol wella cyflogadwyedd dysgwyr gan eu bod yn cael eu hannog i reoli eu hamser a’u hadnoddau i greu gwaith pwrpasol a chwrdd â therfynau amser. Gall hybu ymchwilio beirniadol, sy’n gallu arwain at newidiadau. Gyda’i gilydd, gall y sgiliau hyn gefnogi dysgwyr i ddod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a'u gwaith.

At hyn, mae’r gwerthuso sy’n rhan o’r broses greadigol yn galluogi’r dysgwyr i archwilio materion cymhleth. Mae’n eu galluogi i herio rhagdybiaethau ac i ddod o hyd i atebion a all arwain at well dealltwriaeth o’u hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain ynghyd â hunaniaeth ddiwylliannol pobl, lleoedd a chyfnodau eraill. Drwy’r profiad hwn, caiff y dysgwyr gefnogaeth i ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.

Yn olaf, wrth iddyn nhw gael mwynhad a boddhad personol drwy fynegiant creadigol, gall dysgwyr ddod yn fwy hyderus, a gall hyn gyfrannu’n uniongyrchol at gyfoethogi eu bywydau.

 
Newyddion Diweddaraf Celfyddydau Mynegiannol
Yr Oriel Odidog
25 Hydref 2023
Iago, Tyweli, Bachnog, Clettwr, Bargod, Cerdin
Tocynnau Torri'n Rhydd nawr AR WERTH!
15 Hydref 2023
OED UWCHRADD
Gweithgaredd Diweddaraf
  • Ymweliad gan yr artist lleol Meinir Mathias

    10 Tachwedd 2024 - 20:40
    yr 8
    CELFYDDYDAU MYNEGIANNOL

    Wythnos ddiwethaf fe ddaeth yr artist Meinir Mathias mewn i siarad gyda dosbarthiadau Celf blwyddyn 8 fel rhan o waith y tymor. Cafwyd cyflwyniad diddorol ac addysgiadol am gynnwys ei gwaith, ei harddulliau o weithio a'i phrofiad fel artist proffesiynol. Cafwyd cyfle i holi cwestiynau ac i drafod ei gwaith yn seiliedig ar hanes Merched Beca. Edrychwn ymlaen at weld sut fydd darnau celf Meinir yn ysbrydoli gwaith ein disgyblion y tymor hwn.

    Gallery 1
    Gallery 2
    Gallery 3
    Gallery 4
    Gallery 5
    Gallery 6
  • Cyfranwyr Mentrus a Chreadigol

    09 Tachwedd 2024 - 19:00
    CELFYDDYDAU MYNEGIANNOL

    Dydd Gwener bu disgyblion blwyddyn 1 a 2 yn dathlu eu bod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol. Croesawyd Dwynwen a Sioned o Theatr Felinfach a bu'r disgyblion yn ymarfer eu sgiliau actio yn ystod y gweithdy. Diolch i Theatr Felinfach am ymweld â'r ysgol.

    Gallery 1
    Gallery 2
    Gallery 3
    Gallery 4
    Gallery 5
    Gallery 6
    Gallery 7
    Gallery 8
    Gallery 9
    Gallery 10
  • Gweithdy Cerddoriaeth gyda Mr Phormula

    04 Hydref 2024 - 21:00
    yr 7
    CELFYDDYDAU MYNEGIANNOL

    Bu disgyblion blwyddyn 7 yn rhan o weithdy cerddoriaeth gyda Mr Phormula. Ar ddiwedd y gweithdy perfformiodd y disgyblion rap ar y thema 'Cynefin.'

    Gallery 1
    Gallery 2
    Gallery 3
    Gallery 4
    Gallery 5
    Gallery 6
    Gallery 7
    Gallery 8
    Gallery 9
    Gallery 10
  • Yr Oriel Odidog

    26 Hydref 2023 - 15:30
    CELFYDDYDAU MYNEGIANNOL

    Ar brynhawn Mercher 25ain o Hydref, cynhaliwyd Yr Oriel Odidog yn neuadd yr ysgol. Roedd hwn yn gyfle i ddisgyblion Derbyn i Flwyddyn 2 arddangos eu campweithiau celf y maent wedi bod yn paratoi yn ystod yr wythnosau diwethaf. Thema'r Dysgu Sylfaen yn ystod yr hanner tymor cyntaf oedd ‘Fi Sy’n Bwysig’ a bu’r disgyblion yn datblygu eu sgiliau arlunio trwy ddarlunio hunan bortread. Hyfryd oedd cael gwahodd teuluoedd y disgyblion i’r neuadd er mwyn gwerthfawrogi’r gwaith ynghyd â phrynu’r lluniau.

    Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth.

    #dysgwyrmentrusachreadigol

    Gallery 1
    Gallery 2
    Gallery 3
    Gallery 4
    Gallery 5
    Gallery 6
    Gallery 7
    Gallery 8
    Gallery 9
    Gallery 10

Gweld holl Weithgareddau