Iechyd a Lles

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes) yn darparu strwythur holistaidd ar gyfer deall iechyd a lles. Mae’n ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i wynebu heriau a chyfleoedd bywyd. Elfennau sylfaenol y Maes hwn yw iechyd a datblygiad y corff, iechyd meddwl, a lles emosiynol a chymdeithasol.  Bydd yn cefnogi dysgwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut mae gwahanol elfennau iechyd a lles yn gysylltiedig â’i gilydd.  Mae hefyd yn cydnabod bod iechyd a lles yn bwysig i alluogi dysgu llwyddiannus.

Bydd ymwneud â’r Maes hwn yn gymorth i feithrin dull gweithredu ysgol gyfan sy’n galluogi i iechyd a lles dreiddio i bob agwedd o fywyd ysgol. 

Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi cael ei fynegi mewn pum datganiad. Mae’r rhain yn cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried ar wahân. Er mwyn gwireddu’r dull holistaidd hwn, dylai athrawon geisio tynnu ar y pum datganiad wrth gynllunio gweithgareddau. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Mae gwireddu’n effeithiol y weledigaeth a ddisgrifir yn y Maes hwn yn allweddol i ddatblygu unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Wrth ddatblygu cymhelliant, gwydnwch ac empathi’r dysgwyr, ynghyd â’u gallu i wneud penderfyniadau, gellir eu cefnogi i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes.

Gellir cefnogi dysgwyr hefyd i ddatblygu’n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd drwy feithrin eu gallu i ddangos parch, gwerthfawrogi tegwch, gwrando ar eraill a gwerthuso’r dylanwadau cymdeithasol sy’n effeithio arnyn nhw.

Drwy alluogi dysgwyr i reoli risg, mynegi syniadau ac emosiynau, datblygu a chynnal cydberthnasau iach, ac i chwarae gwahanol rolau ac ysgwyddo gwahanol gyfrifoldebau, gall y dysgu a’r profiad yn y Maes hwn gefnogi dysgwyr i ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn mewn bywyd a gwaith.

Newyddion Diweddaraf Iechyd a Lles
CogUrdd & PobUrdd
17 Hydref 2024
OED UWCHRADD
Macmillan Coffee Morning
26 Medi 2024
Sixth Form
PENCAMPWYR Cystadleuaeth Plât URC Dan 18!
20 Mawrth 2024
OED UWCHRADD
Twrnament "5 Cynradd"
11 Hydref 2023
Nant Gwylan, Caradog, Gwyddgrug
Gweithgaredd Diweddaraf
  • Gemau Chwaraeon yn erbyn Ysgol Penglais

    02 Hydref 2024 - 12:50
    OED UWCHRADD
    IECHYD A LLES

    Llongyfarchiadau i'n timau i gyd am eu buddugoliaethau yn erbyn Ysgol Penglais. Gwaith tîm arbennig gan bawb.

    Gallery 1
    Gallery 2
    Gallery 3
    Gallery 4
    Gallery 5
    Gallery 6

Gweld holl Weithgareddau