Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (Maes) yn ymwneud ag agweddau hanfodol cyfathrebu rhwng pobl. Ei nod yw cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm a galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol yn ogystal â llenyddiaeth.

Dylid ystyried yn holistaidd y pedwar datganiad sy’n nodi’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn. Golyga hyn y dylid archwilio gwahanol ieithoedd mewn perthynas â’i gilydd, yn ogystal â sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Golyga hyn hefyd y dylid ystyried dysgu am a thrwy lenyddiaeth fel rhywbeth sy’n cyfrannu at holl agweddau dysgu am ieithoedd. Mae’r datganiadau yn cefnogi a chadarnhau’i gilydd. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Gweld holl Weithgareddau