Cafodd Blwyddyn 8 gyfle arbennig i greu GIFs cyffrous fel rhan o weithdy arbennig a drefnwyd gan Câr-Di-Iaith mewn partneriaeth â chwmni cyfryngau digidol Mwydro. Roedd y gweithdy’n gyfle unigryw i fyfyrwyr gydweithio â’r adrannau Dylunio a Thechnoleg a Chelf, gan gyfuno creadigrwydd a thechnoleg er mwyn dod ag idiomau Cymraeg yn fyw.
Diolch yn fawr iawn i Câr-Di-Iaith am gynnig y cyfle anhygoel yma! Gallwch weld GIFs y myfyrwyr trwy ddilyn y ddolen hon, ac rydym ni'n annog pawb i'w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.






