Ein Datganiad Cwricwlwm

Crynodeb o Gwricwlwm Ysgol Bro Teifi

Ein Cwricwlwm Cynhwysol

Prif nod y ddarpariaeth addysg gynhwysol yn yr ysgol yw sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn cyrraedd eu potensial o fewn awyrgylch cynhaliol. Fel ysgol rydym yn ystyried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn diwallu anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr ac yn ymateb i'r cod ADY newydd.

Y Pedwar Diben

Gweledigaeth ar y cyd yw’r pedwar diben, a dyma’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Wrth wireddu’r rhain, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo lles personol a chenedlaethol, yn herio anwybodaeth a cham wybodaeth, ac yn annog dysgwyr i chwarae eu rhan fel dinasyddion effro a beirniadol.  Nod ein hysgol yw cefnogi disgyblion i ddod yn:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau.
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  • Dinasyddion, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd.
  • Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Mae'n rhaid i gynnwys cwricwlwm gysylltu'n ôl â'r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Mae hyn yn helpu dysgwyr i wneud synnwyr o bopeth y maen nhw yn ei ddysgu drwy gydol y continwwm dysgu. Bydd ein cwricwlwm yn darparu profiadau cyfoethog i ddatblygu’r cysyniadau, y wybodaeth a’r  sgiliau allweddol a nodwyd yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig.

Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDaPh)

Bydd y dysgu wedi selio ar 6 maes dysgu a phrofiad yn hytrach nag drwy ddefnyddio pynciau fel y bu'n y gorffennol. Oddi mewn i'r meysydd yma mae yna ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Mae'r datganiadau hyn yn nodi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau pwysicaf i'w datblygu.

Bydd cwricwlwm Ysgol Bro Teifi yn darparu profiadau dysgu a chyfoethog drwy'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad isod:

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Celfyddydau Mynegiannol

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dyniaethau

Mathemateg a Rhifedd

Iechyd a Lles

Hawliau Dynol CCUHP / CCUHPA

Ym Mro Teifi byddwn yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plentyn, a'r confensiwn Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, ymhlith y rhai sy'n darparu dysgu ac addysgu.

Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith

Byddwn yn sicrhau profiadau cyfoethog i'r disgyblion ac yn ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith ar gyfer ein holl ddysgwyr.

Addysg cyd-berthynas a rhywioldeb (ACRh)

Fel ysgol byddwn yn cwmpasu'r canllawiau ACRH a'r Cod ACRh. Er mwyn gwireddu gofynion y Pedwar Diben mi fydd gan y ddarpariaeth ACRh rôl cadarnhaol a grymusol yn addysg ein dysgwyr ym Mro Teifi. Byddwn fel ysgol yn helpu a chefnogi disgyblion i ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau a fydd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch. Mae'r gofynion hyn yn sicrhau blaenoriaeth i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi ein disgyblion.

Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Yn sgil y cwricwlwm newydd mae'r canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn orfodol i bob dysgwr o 3 i 16 oed, ac yn un o'r gofynion mandadol. Erbyn hyn nid oes hawl gan rieni hepgor eu plant o'r Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yng Nghwricwlwm Cymru. O fewn yr awdurdod lleol bydd maes llafur cytûn yn nodi'r hyn y dylid ei addysgu o fewn y Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ac fe fyddwn yn adlewyrchu'r canllawiau hyn o fewn ein cwricwlwm.

Adolygu a mireinio

Mi fydd y Cwricwlwm newydd yn Ysgol Bro Teifi yn cael eu adolygu'n barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn gynhwysol, yn ymatebol ac yn diwallu anghenion pob dysgwr. Byddwn yn sicrhau Cwricwlwm cyfoes sy'n cwrdd âg anghenion y disgyblion, anghenion y gymdeithas leol ynghyd â darganfyddiadau ymchwiliad proffesiynol. Byddwn yn cynnal adolygiadau a thrafodaethau cyson er mwyn ystyried barn disgyblion a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau cwricwlwm sy'n parhau i ddatblygu.

 Dysgu, Dilyniant, Cynnydd ac Asesu

Wrth gynllunio cyfleoedd dysgu mi fydd ein cwricwlwm yn defnyddio egwyddorion addysgeg fel sail cadarn. 

Cynnydd mewn dysgu yw sut mae dysgwr yn datblygu ac yn gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth dros amser. Mae hyn yn golygu cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth, dyfnhau eu dealltwriaeth, a mireinio eu sgiliau, i gyd wrth ddod yn fwy annibynnol a chymhwyso eu dysgu i sefyllfaoedd newydd.  Mae'r gydberthynas rhwng y cwricwlwm, asesu ac addysgeg, felly, yn allweddol i gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon yn eu dysgu. Wrth gynllunio a chyflwyno profiadau dysgwyr, bydd ymarferwyr yn ymwybodol o sut maen nhw'n cyfrannu at daith gyffredinol dysgwr ar hyd y continwwm 3 i 16 oed, gyda chyflymder y cynnydd hwnnw'n cael ei lywio gan y pwyntiau cyfeirio a nodir yn y dysgu. Bydd angen i ysgolion a lleoliadau gydweithio wrth iddynt ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd o fewn y  Cwricwlwm i Gymru. Bydd asesu yn rhan annatod o’r dysgu ac addysgu, ac mi fydd pob dysgwr yn cael ei asesu wrth ddechrau ei taith yn yr Ysgol.

Cymraeg a Saesneg

Y Gymraeg ydy prif gyfrwng holl fywyd a gwaith Ysgol Bro Teifi gyda’r nod o sicrhau bod pob disgybl yn medru’r ddwy iaith yn drylwyr hyd at eithaf ei allu / gallu erbyn gadael yr ysgol. Cyflwynir Saesneg i ddisgyblion yn saith mlwydd oed.

Sgiliau Trawsgwricwlaidd

O fewn y cwricwlwm bydd y dysgwyr yn datblygu'r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Drwy ddatblygu sgiliau'r trawsgwricwlaidd hyn bydd yn galluogi ein dysgwyr i'w hymestyn a chymhwyso ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad. Ar draws y Cwricwlwm bydd cyfleoedd i ddisgyblion:

Datblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ag ysgrifennu.

Defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Fod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i’w helpu i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd.

Fel ysgol, rydym wedi cydweithio â rhanddeiliaid yr ysgol; dysgwyr, rhieni, gofalwyr a llywodraethwyr i ystyried pob agwedd o gwricwlwm Ysgol Bro Teifi.

Gweld holl Weithgareddau