Datganiad Gweledigaeth Ysgol Bro Teifi ar gyfer Addysg Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith
Yn Ysgol Bro Teifi, rydym wedi ymrwymo i rymuso pob dysgwr, o 3 i 19 oed, i ffynnu mewn byd gwaith sy'n newid yn barhaus. Dan arweiniad egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, rydym yn meithrin unigolion uchelgeisiol, galluog a moesegol sy'n barod i lywio llwybrau gyrfa amrywiol yn hyderus a chyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas. Trwy brofiadau deinamig, cynhwysol a dysgwyr sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, rydym yn datblygu sgiliau beirniadol, gwytnwch, ac ymdeimlad o bwrpas, gan sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod ar gyfer dysgu gydol oes a dinasyddiaeth gyfrifol yn yr economi fyd-eang.
Gyda'n gilydd, rydym yn ysbrydoli ein dysgwyr i archwilio eu diddordebau, datblygu eu doniau, a chroesawu cyfleoedd ar gyfer twf personol, gyda sylfaen gadarn yng ngwerthoedd lles, tegwch a chynaliadwyedd.
Yn Ysgol Bro Teifi, bydd ystod eang o weithgareddau sy'n cyd-fynd ag Addysg Gyrfaoedd a Byd Gwaith yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau hanfodol, archwilio opsiynau gyrfa, a pharatoi ar gyfer eu dyfodol. Bydd y gweithgareddau hyn, a arweinir gan egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, yn ddeniadol, cynhwysol, ac wedi'u teilwra i anghenion dysgwyr ar draws pob grŵp oedran (3-19). Mae enghreifftiau'n cynnwys:
Blynyddoedd Cynnar (3-7 oed)
Blynyddoedd Cynradd (7-11 oed)
Blynyddoedd Cynradd (11-16 oed)
Chweched Dosbarth (16-19 oed)
Bydd y gweithgareddau hyn nid yn unig yn meithrin sgiliau bywyd hanfodol ond hefyd yn meithrin ymdeimlad o chwilfrydedd, hyder ac uchelgais, gan sicrhau bod dysgwyr Ysgol Bro Teifi yn gwbl barod i ragori yn y gyrfaoedd o'u dewis.
Bu disgyblion y Chweched ar daith breswyl i Brifysgol Aberystwyth yr wythnos hon. Dyma hanes y profiad yn ôl tri o'n disgyblion...
Aeth grŵp o’r chweched i Brifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth a ddydd Mercher ar gyfer taith breswyl. Cawsom gyfle i flasu bywyd prifysgol trwy fynychu darlithoedd amrywiol fel Bioleg, Amaeth a Seicoleg. Yn y darlith Bioleg cawsom gyfle i wneud gwaith ymarferol ar DNA trwy ddefnyddio cyfarpar gwyddonol newydd i ni fel disgyblion chweched.
Hefyd gwaith ymarferol oedd yn Amaeth trwy chwilio a dysgu am barisitiaid mewn dom anifeiliaid fferm, roedd yn hynod o ddiddorol! Yn y darlith Seicoleg buom yn ymchwilio yr effaith o dynnu sylw person tra ei fod yn gyrru a chawsom y siawns i ddefnyddio cyfarpar digidol ac ymweld â’r adran Seicoleg. Ar ôl swper blasus yn Y Llew Du buom yn treulio’r noson yn Neuadd Penbryn.
Gwaith BAC oedd y ffocws bore dydd Mercher gan ddefnyddio un o ystafelloedd cyfrifiadurol modern y Brifysgol. Fel grŵp cawsom lawer o hwyl dros y ddau ddiwrnod a chyfle gwerthfawr i flasu bywyd prifysgol. Diolch i Mrs Morgan am drefnu’r cyfle.
Esyllt Jones
Tra’n ymweld â Phrifysgol Aberystwyth, cefais gyfle i fynychu sesiynau ar Wleidyddiaeth Ryngwladol, y Gyfraith a Chriminoleg, a Theatr a Pherfformio. Roedd yn ddiddorol iawn clywed am y gwahanol gyrsiau, a chael cipolwg ar sut mae cyrsiau prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg yn edrych.
Hoffais sut nad oedd y darlithwyr yn eistedd ac yn siarad tuag atom drwy’r amser, ond yn ein dal ni’n effro ac yn ein hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a ‘gemau’. Roedd y sesiwn Gwleidyddiaeth yn un hir a oedd yn sôn am y gwahaniaeth rhwng cenedl a gwladwriaeth, a sut mae arbenigwyr yn anghytuno ar y manylion manwl. Fe wnaeth hyn fy annog i ddatblygu barn ar rywbeth nad oeddwn erioed wedi ystyried o’r blaen. Gorffenwyd y sesiwn gyda thasg greadigol oedd yn ymwneud â’r ddadl.
Roedd y sesiwn Gyfraith a Chriminoleg yn un ddiddorol iawn gyda dau siaradwr gwahanol yn trafod gyda ni. Cawson ni drafodaeth am broblemau moesegol a chyfreithiol sy’n gallu codi gyda digwyddiadau mawr fel Glastonbury, gan wneud gwaith grŵp, ac wedyn esboniad o’r gwahanol fathau o gyfraith a’u hystyr. Unwaith eto, daeth y sesiwn i ben gyda gweithgaredd lle roedd yn rhaid i ni benderfynu a oedd unigolyn mewn sefyllfa ffuglenol yn euog yn gyfreithiol ai peidio.
Yn ystod y sesiwn Theatr a Pherfformio, edrychom yn fanwl ar olygfa benodol o 'King Lear' gan Shakespeare, lle roedd un cymeriad yn twyllo cymeriad arall. Wedyn, roedd yn rhaid i ni benderfynu pa benderfyniadau y gallem eu cymryd fel actorion i gyfleu’r olygfa orau.
Ar ôl diwrnod hwyl ond prysur o drafodaethau, gweithgareddau a chrwydro’r dref, aethom i’r Llew Du i gael swper ac ymlacio. Roedd y bwyd yn arbennig, ac ar ôl gorffen, fe wnaethom gwis dafarn llawn cystadleuaeth.
Ar yr ail ddiwrnod cafwson ni’r cyfle i ddefnyddio un o ystafelloedd gyfrifaduron y brifysgol i wneud ychydig o’n gwaith BAC ar gyfer blwyddyn nesaf! Ar y cyfan, roedd y daith i Aberystwyth yn un hwyl iawn ac yn gyfle i fwynhau gyda ffrindiau, tra’n dysgu mwy am fywyd prifysgol ar yr un pryd.
Peredur Llywelyn
Yn bersonol gwnes i fwynhau'r profiad o fynd i ymweld â Phrifysgol Aberystwyth yn fawr iawn! Mynychais y sesiynau ar gyfer Bioleg, Amaethyddiaeth a Drama lle cefais flas ar y pynciau gan wneud arbrofion a gweithgareddau ymarferol.
Yn y sesiwn Bioleg cawsom wneud arbrawf ar ddarganfod DNA drwy wneud echdyniad DNA. Roedd cael defnyddio’r holl gyfarpar gwahanol a newydd mewn labordy o safon yn brofiad gwych! Yna yn y sesiwn Amaethyddiaeth ymchwilon drwy ficrosgop ar garthion defaid i weld wyau a pharasitiaid yn eu carthion, roedd hyn wir yn ddiddorol! Hanes King Lear oedd yn dylanwadu ar ein sesiwn gyda’r adran Ddrama, wrth i ni lwyfannu’r olygfa erchyll pan mae King Lear am gyflawni hunan laddiad. Profiad hollol deimladwy wrth i bob un gael cyfle i roi teimlad gwahanol wrth lwyfannu’r olygfa.
Ar ddiwedd y dydd aeth criw'r Chweched i dafarn ‘Y Llew Du’ am bryd o fwyd blasus a chwis diddorol a hwylus. Ar yr ail ddiwrnod cawsom y cyfle arbennig i ddefnyddio cyfarpar y Brifysgol i wneud ychydig o waith BAC ar gyfer ein cwrs yn yr ysgol, roedd pawb yn hynod ddiolchgar o’r cyfle yma ac yn manteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r cyfarpar modern.
Roedd y diwrnodau yma wedi rhoi blas realistig iawn o fywyd yn y Brifysgol i ni fel criw, cafodd bob un ohonom brofiad hyfryd, diolch i bob un wnaeth drefnu!
Alaw Evans
Ym mis Rhagfyr, cafodd ein disgyblion ym mlwyddyn 9 y cyfle i gymryd rhan yn yr Her 'Tasty Careers.'
Yr her eleni oedd i weithio mewn timau i ddylunio naill ai gynnyrch bwyd neu ddiod iach newydd wedi’i wneud o gymaint o gynnyrch Cymreig â phosibl. Roedd y briff yn nodi bod gwneuthurwr bwyd a diod adnabyddus wedi cysylltu â'r disgyblion yn gofyn iddyn nhw feddwl am gynnyrch newydd sydd â buddion iechyd clir, sy’n gynaliadwy ac sydd hefyd yn gynnig masnachol gwych. Byddai angen i’r cynnyrch fod yn wreiddiol, gydag enw brand, logo a slogan gwreiddiol ac, yn ddelfrydol, byddai angen ei gyflwyno mewn pecyn 500g/ml. Roedd angen iddyn nhw gyflwyno’u syniad i banel o feirniaid hefyd. Croesawyd Rhian a Phoebe o Ganolfan Bwyd Cymru i feirniadu, ac maen nhw wedi bod yn mentora'r grŵp buddugol ar gyfer y rownd nesaf.
Merched Mêl oedd yn fuddugol yn y rownd ysgol ac fe gynrychiolon nhw'r ysgol ddydd Gwener diwethaf. Dymunwn yn dda iddyn nhw wrth iddyn nhw gystadlu yn y rownd derfynol fis nesaf ym Mharc y Sgarlets. Gwych ferched!
Cafodd ein disgyblion Blwyddyn 13 eu diwrnod ffug gyfweliad heddiw, gan eu paratoi ar gyfer eu camau nesaf boed i'r brifysgol, coleg, prentisiaeth neu i fyd gwaith. Croesawyd pobl o amrywiaeth o sectorau i gynnal y ffug gyfweliadau: Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Coleg Ceredigion, Y Brifysgol Agored, Mentera a Golwg. Roedden nhw i gyd yn canmol ein disgyblion ar ddiwedd y cyfweliadau.
Daeth staff Profi/Meneter Gorllewin Sir Gâr i'r ysgol heddiw a dydd gwener diwethaf i'n cynorthwyo i baratoi ein disgyblion blwyddyn 11 ar gyfer byd gwaith. Dyma'r cyntaf mewn cyfres o weithgareddau sydd yn rhan o bartneriaeth rhwng yr ygsol a Profi.
Heddiw, cofrestrodd y disgyblion ar wefan Profi a chwblhau cwis sgiliau. Roedd hyn fel paratoad ar gyfer y gweithdy ysgrifennu CV y bydd blwyddyn 11 yn rhan ohoni cyn gwyliau hanner tymor. Yna, bydd y CVs yn cael eu defnyddio yn ffug gyfwelidau blwyddyn 11 ym mis Ionawr.