Cytundeb Cartref-Ysgol - Ffonau Symudol
Home-School Agreement - Mobile Phones

Cytundeb Cartref-Ysgol - Ffonau Symudol

Mae nifer helaeth o ddisgyblion yr ysgol yn berchen ffôn symudol. Mae hyn yn cyflwyno sawl her i’r ysgol. Nid yw’n ymarferol i wahardd ffonau symudol yn gyfan gwbl, nac yn bosib casglu’r ffonau ar ddechrau pob diwrnod a’u dychwelyd ar ddiwedd pob dydd. Tra’n bod ni fel ysgol yn cydnabod yr angen i rai disgyblion i ddod â ffôn i’r ysgol oherwydd trefniadau wedi oriau ysgol, nid yw’r ysgol yn caniatáu defnydd o’r ffonau yma ar gampws yr ysgol
Y mae’r polisi yma yn caniatáu i ddisgyblion oed uwchradd gael ffôn yn yr ysgol o dan y canllawiau a amlinellir isod. Ni chaniateir i ddisgyblion oed cynradd ddod â ffonau symudol i’r ysgol.

1.Ni chaniateir defnyddio ffôn symudol i unrhyw bwrpas (gan gynnwys ffonio, anfon neges destun, defnyddio’r we, tynnu lluniau neu luniau fideo) mewn unrhyw wers.

2.Ni chaniateir unrhyw ddefnydd o’r ffonau symudol yn ystod yr amser egwyl / amser cinio a hynny o fewn yr adeilad nac allan ar yr iard chwarae/caeau chwarae.

3.Dylai’r ffôn gael ei ddiffodd a’i gadw o’r golwg ym mhob gwers. Dylid ei storio yn y bag neu mae loceri ar gael.

4.Pe bai disgybl yn torri’r rheolau uchod mae hawl gan yr athro i gymryd y ffôn a’i gadw mewn man diogel tan ddiwedd y wers (os mai mân darfu a fu) neu i’w chadw ym mhrif swyddfa’r ysgol tan ddiwedd y dydd. Fe ddychwelir y ffonau ar ddiwedd y dydd i’r unigolyn os mai achos unigryw oedd y camddefnydd.

5.Pe bai disgybl yn torri’r rheolau yn aml bydd yr ysgol (drwy’r Pennaeth Blwyddyn) yn cysylltu â’r cartref ac yn gofyn i’r rhiant / gwarcheidwad alw yn yr ysgol i drafod y mater ac i gasglu’r ffôn.

6.Ni chaniateir ffonau symudol mewn ystafell arholiad ar unrhyw achlysur.

7.Mae defnyddio ffonau symudol mewn ystafelloedd newid neu yn ardaloedd y tŷ-bach yn annerbyniol ac fe allai arwain at gyfeiriad i’r heddlu.

Argyfwng:


Petai disgybl angen cysylltu gyda rhiant / gwarcheidwad fe ganiateir defnyddio ffôn yr ysgol yn y swyddfa yn rhad ac am ddim.
(Ni ddylai disgybl gysylltu yn uniongyrchol drwy ffôn symudol gyda rhiant / gwarcheidwad i ddweud eu bod yn sâl ac angen dod adref. Rhaid i’r disgybl weld Pennaeth Blwyddyn neu rywun yn y swyddfa cyn ffonio gartref bob tro.)
Petai rhiant / gwarcheidwad angen cysylltu gyda disgybl ar frys mae modd cysylltu â swyddfa’r ysgol i adael neges. Bydd staff y swyddfa yn sicrhau bod y disgybl yn derbyn y neges.

Gwybodaeth Dan Sylw
Cytundeb Cartref-Ysgol - Ffonau Symudol
Bwydlenni wythnosol disgyblion oed cynradd.
Cytundeb Cartref-Ysgol - Ffonau Symudol
Rhywbeth yn eich poeni?
Rhannu...