Gwasanaeth Cwnsela

Gwasanaeth Cwnsela

Cwnsela Ysgol: Rydym yma i helpu!

 

Beth yw Cwnsela Ysgol?

Mae cwnsela ysgol yn wasanaeth sydd wedi’i ddylunio i’ch helpu gyda phethau sydd efallai’n eich gwneud chi deimlo o dan straen, trist, pryderus neu unrhyw beth sydd yn eich poeni. Mae'n le diogel lle gallwch siarad am bethau sydd ar eich meddwl- boed yn gysylltiedig ag ysgol neu'n bersonol.

Mae ein cwnselwr ysgol yma i’ch cefnogi gyda:

  • Teimlo’n well pan fyddwch chi’n drist
  • Delio â straen, pryder neu deimladau tristwch
  • Gwella perthnasoedd gyda ffrindiau
  • Cynllunio nodau a gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol
  • Deall heriau gartref neu yn yr ysgol
  • Adeiladu hunan-barch

 

Beth sy'n digwydd mewn sesiwn cwnsela?

  • Cyfrinachedd: Mae unrhyw beth rydych yn ei rannu gyda'r cwnselwr yn aros yn breifat. Dim ond os oes pryder am eich diogelwch chi neu eraill y bydd y cwnselwr yn siarad â rhywun arall.
  • Siarad a Gwrando: Mae’r cwnselwr yma i wrando heb farnu a’ch helpu i weithio drwy’ch teimladau. Gallwch siarad am unrhyw beth sydd ar eich meddwl, ac mae'r cwnselwr yn cynnig cymorth, cyngor, a ffyrdd i deimlo'n well.

 

Sut Gallaf Weld y Cwnselydd?

  • Hunangyfeirio: Gallwch lenwi'r ffurflenni hunangyfeirio sydd ar gael tu allan i hafan a rhoi i athro neu aelod o staff rydych yn ymddiried ynddo i'w drosglwyddo i'r cwnselydd. Gallwch hefyd ddod o hyd i'r ffurflen ar-lein trwy sganio'r cod QR ar y posteri neu fynd trwy hwb bugeiliol gwefan yr ysgol lle byddwch yn dod o hyd i'r ffurflen hunangyfeirio. Mae'r ffurflen ar-lein yn gyfrinachol ac yn cael ei hanfon yn unig at y cwnselwyr.
  • Atgyfeiriad gan ysgol: Os bydd athrawon yn sylwi arnoch chi’n cael anawsterau, efallai y byddant yn llenwi ffurflen atgyfeiriad are eich rhan os ydych chi yn hapus gyda hyn.
  • Atgyfeiriad gan Rieni: Efallai y bydd eich rhieni neu warcheidwyr yn awgrymu gweld y cwnselwr os ydyn nhw'n sylwi ar bethau sy'n eich cyfyngu.

 

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi weld y Cwnselydd?

  • • Cefnogaeth Barhaus: Mae'r gwasanaeth cwnsela yn cynnig 6 sesiwn fesul cyfeiriad. Ar ôl i chi gwblhau'r 6 sesiwn, gallwch bob amser ailgyfeirio am gymorth pellach.
  • Cael help: Efallai y bydd y cwnselwr yn cynnig strategaethau defnyddiol neu weithgareddau i wneud i chi deimlo'n well.
  • Cael cyngor: Efallai y bydd y cwnselwr yn argymell siarad â phobl eraill neu gael cymorth ychwanegol os yw'n angenrheidiol, ond dim ond os ydych chi'n cytuno.

 

Gall Cwnsela Eich Helpu gyda:

  • Delio â theimladau anodd (teimlo'n drist, pryderus, ofnus ac ati)
  • Delio â materion ffrindiau neu fwlio
  • Teimlo'n hyderus am ysgol a gweithgareddau
  • Rheoli straen ac amser (gwaith cartref, arholiadau ac ati)
  • Heriau personol (materion teuluol ac ati)

 

Cofiwch: Nid ydych chi’n Unig.

Mae pawb yn wynebu heriau, ac mae'n iawn i ofyn am help. Mae’r cwnselwr ysgol yma i wrando, cefnogi a’ch helpu i weithio drwy amseroedd anodd. Peidiwch ag ofni i gysylltu!

Mae modd i ddisgyblion oed uwchradd gael mynediad at ddarpariaeth gwnsela yn yr ysgol sydd wedi ei ddarparu drwy gwnselwyr Cyngor Sir Ceredigion. Y person cyswllt ar gyfer cwnsela yw Mrs Llinos Lloyd. Mae modd i ddisgyblion siarad gyda'u pennaeth blwyddyn er mwyn trefnu apwyntiad neu gallant hunan-gyfeirio drwy ddilyn y ddolen isod. Mae pob sesiwn gwnsela yn gyfrinachol oni bai y cwyd unrhyw faterion amddiffyn plant yn ystod y sesiwn. 

Gwybodaeth Dan Sylw
Gwasanaeth Cwnsela
Bwydlenni wythnosol disgyblion oed cynradd.
Gwasanaeth Cwnsela
Rhywbeth yn eich poeni?
Rhannu...