Polisi Defnydd Derbyniol Technoleg Gwybodaeth
Information Technology Acceptable Use Policy

Polisi Defnydd Derbyniol Technoleg Gwybodaeth

Mae’r defnydd o systemau TGCh a Rhwydwaith yr ysgol yn fraint, ac yn seiliedig ar yr amod eich bod yn derbyn y cytundeb hwn. Bwriad y polisi hwn yw:

✓Sicrhau diogelwch ac e-ddiogelwch system yr ysgol
✓Sicrhau parch tuag ar holl aelodau’r gymuned
✓Cynnal enw da’r ysgol, gan gynnwys ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.

Mae’n rhaid i’r defnydd o gyfrifiaduron / dyfeisiau a’r rhyngrwyd yn yr ysgol i fod at ddibenion addysgol yn unig. Ystyr hyn yn benodol yw:
•Ni fyddaf yn mynd ar y rhyngrwyd ac i mewn i system TG yr ysgol heblaw trwy fy nghyfrif awdurdodedig a’m cyfrinair, ac ni fyddaf yn datgelu’r rhain i bobl eraill.
•Byddaf yn sicrhau nad wyf yn gwneud difrod i’r system yn fwriadol trwy god maleisus (e.e. heintiau feirws, maleiswedd ac ati), hacio neu ymyrryd â’r system.
•Bydd yr iaith a ddefnyddiaf mewn cyfathrebu electronig yn briodol ac yn addas, fel ar gyfer pob gwaith ysgol.
•Byddaf yn parchu hawlfraint deunyddiau.
•Ni fyddaf yn ymyrryd yn fwriadol â ffeiliau gwaith rhywun arall a/neu eu dileu.
•Ni fyddaf yn datgelu manylion personol megis enw, cyfeiriad, oed neu rif ffôn i bob y tu allan i’r Ysgol. Byddaf yn hysbysu aelod o staff yn ddiymdroi pe dderbynnir unrhyw gyfathrebiadau anaddas.
•Ni fyddaf yn anfon nac yn anfon ymlaen, cyhoeddi na chreu deunydd sy’n sarhaus, yn niweidiol neu fel arall yn creu trallod i rywun arall. Ni fyddaf ychwaith yn anfon negeseuon dienw neu’n anfon llythyron cadwyn ymlaen.
•Ni fyddaf yn defnyddio ffôn symudol, camera nac unrhyw ddyfais electronig arall i dynnu, cyhoeddi neu ddosbarthu lluniau neu fideos o unrhyw un heb eu caniatâd.


Yn ogystal, deallaf:


•Fod defnyddio’r rhwydwaith i gael mynediad bwriadol i ddeunydd amhriodol fel deunydd pornograffig, hiliol neu ffiaidd wedi’i wahardd ac y gallai gael ei ystyried yn drosedd.
•Bod yn rhaid dilyn arweiniad ar gyfer defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel a byddaf yn rhoi gwybod am unrhyw ddeunyddiau neu ymddygiad sy’n annerbyniol yn fy marn i.
•Bod yr ysgol yn cadw’r hawl i archwilio neu ddileu unrhyw ffeiliau a gedwir ar ei system gyfrifiadurol, i fonitro unrhyw wefannau yr ymwelwyd â nhw ac unrhyw negeseuon e-bost a anfonwyd ac, os oes angen, adrodd am unrhyw beth a allai gael ei ystyried yn drosedd.

AT SYLW'R RHIANT/GOFALWR:

Fel rhiant neu warcheidwad cyfreithiol, rhoddaf ganiatâd i’m mab/merch ddefnyddio’r rhwydwaith er mwyn cael mynediad i’r rhyngrwyd. Deallaf y bydd y disgyblion yn cymryd cyfrifoldeb dros eu hymddygiad eu hunain. Deallaf hefyd fod peth deunydd ar y rhyngrwyd yn annymunol a derbyniaf gyfrifoldeb dros osod safonau i’m mab/merch i’w dilyn wrth ddewis rhannu a chwilio am wybodaeth.

Gwybodaeth Dan Sylw
Polisi Defnydd Derbyniol Technoleg Gwybodaeth
Bwydlenni wythnosol disgyblion oed cynradd.
Polisi Defnydd Derbyniol Technoleg Gwybodaeth
Rhywbeth yn eich poeni?
Rhannu...