Mae’r Hafan yn leoliad diogel, tawel a chartrefol o fewn yr ysgol sydd yno i’ch cefnogi ar faterion emosiynol. O fewn yr Hafan, mae staff cymwys yn medru cynnig cefnogaeth i chi os gwelwch chi elfennau o fywyd yr ysgol yn heriol ar adegau gan roi cyngor i chi ar sut i ymdopi. Gwneir hyn drwy weithgareddau penodol neu drwy gefnogaeth asiantaethau allanol a/neu gweithiwr ieuenctid yr ysgol.
Mae modd i chi i gyfeirio eich hunain i’r Hafan yn ystod amser egwyl neu ginio, neu, drwy drafod gyda aelodau staff, gall aelodau staff eich gyfeirio i’r Hafan am gefnogaeth yn ogystal.
Cofiwch, os oes rhywbeth yn eich poeni ddydd neu nos, mae modd i chi wasgu’r ‘Botwm Becso’ ar y wefan i gael cefnogaeth pellach.


