Rydym yn ymwybodol, o dro i dro, fod teuluoedd yn ei chael yn anodd i gael y wisg ysgol sydd angen arnynt. Yn aml, mae gennym ddarnau o wisg coll, ail-law neu wisg sydd wedi ei roi ar gael neu, mae gan CRhA yr Ysgol, Cyfeillion Bro Teifi fynediad at wisg ar adegau penodol o'r flwyddyn.
Os oes angen unrhyw eitemau arnoch, cysylltwch gyda swyddfa@broteifi.ceredigion.sch.uk ac fe wnawn ein gorau i ddod o hyd i'r eitemau sydd angen arnoch a'u trosglwyddo mewn modd sensitif i chi neu i'ch plentyn.
Mae angen help llaw ar bawb o dro i dro.♥

