Croeso i dudalen Cyfadran y Gymraeg Ysgol Bro Teifi. Dyma blatfform hynod o ddefnyddiol er mwyn rhannu adnoddau a chyfleoedd yn ogystal â dathlu llwyddiannau ein Cyfadran.
Wrth astudio’r Gymraeg yn Ysgol Bro Teifi, bydd ein dysgwyr yn ymarfer eu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu yn gyson wrth baratoi a chyflwyno amrywiaeth o dasgau ar amryw o themâu. Bydd disgwyl i’n disgyblion i ddarllen amrywiaeth o lyfrau er mwyn ehangu geirfa, tanio syniadau creadigol a chyfoethogi eu haddysg. Yn ogystal mi fyddwn yn darllen nofel ddosbarth ac yn cwblhau gweithgareddau amrywiol yn seiliedig arni. Mae gwersi’r Gyfadran yn amrywio o wersi Iaith i wersi thema, mae’r ddwy elfen yn mynd law yn llaw â’i gilydd. Pwrpas y gwersi Iaith yw gwella cywirdeb tasgau llafar ac ysgrifenedig. Bydd disgwyl i’n disgyblion ddysgu rheolau gramadeg a chofio eu defnyddio yn eu gwaith. Yn ogystal â datblygu sgiliau Llythrennedd, o bryd i’w gilydd, bydd hefyd cyfle i ddatblygu Sgiliau Rhifedd a Sgiliau Digidol.
Trwy gynnig amryw o brofiadau fel Cyfadran ein gobaith yw:

