Llongyfarchiadau i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 wnaeth gystadlu yng nghystadleuaeth rygbi cymysg yr Urdd yn Nhregaron ddydd Mawrth. Gwnaeth y ddau dîm chwarae yn wych gyda thîm B yn dod yn drydydd yn ei grwp, ar ôl ennill 4 gêma thîm A yn ennill y gystadleuaeth. Byddant nawr yn mynd ymlaen i gynrychioli Ceredigion yn Aberystwyth ym mis Mai. Da iawn i aelodau y ddau dîm a phob lwc ym mis Mai.





