Cytundeb Cartref-Ysgol - Cyfrifoldebau
Home-School Agreement - Responsibilities

Cytundeb Cartref-Ysgol - Cyfrifoldebau

Bydd Ysgol Bro Teifi:

✓yn sicrhau bod nod ac amcanion yr ysgol yn cael eu cyflawni
✓yn cyrraedd safonau dysgu ac addysgu uchel
✓yn gosod a marcio gwaith cartref yn gyson
✓yn mynnu safonau ymddygiad uchel
✓yn gofalu am ddiogelwch a lles eich plentyn
✓yn paratoi disgyblion ar gyfer arholiadau a phrofion cenedlaethol ac allanol
✓yn darparu cwricwlwm cytbwys a fydd yn cyfarfod ag anghenion eich plentyn
✓yn cynnig ystod eang o weithgareddau allgyrsiol
✓yn rhoi gwybod i chi am gynnydd eich plentyn ac am faterion yr ysgol yn gyffredinol
✓yn cynnig cyngor, cefnogaeth a chyfarwyddyd i rieni a disgyblion ynglŷn ag addysg bellach a gyrfaoedd
✓yn parchu disgyblion fel unigolion gan eu hatgoffa o’u cyfrifoldebau i’r gymuned gyfan.

Byddaf fel Rhiant:


✓yn sicrhau bod fy mhlentyn yn bresennol yn yr ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon yn ôl gofynion y Gyfraith
✓yn sicrhau bod fy mhlentyn yn gwisgo’r wisg ysgol swyddogol
✓yn cefnogi’r ysgol wrth i’r ysgol hawlio safonau uchel mewn ymddygiad, gwaith a gwisg
✓yn rhoi gwybod i’r ysgol ymlaen llaw am unrhyw absenoldeb anorfod sy’n hysbys i mi;
✓yn cymryd diddordeb gweithredol a chefnogol yng ngwaith a chynnydd fy mhlentyn gan gynnwys gwaith cartref
✓yn mynychu cyfarfodydd rhieni a thrafodaethau eraill yn ymwneud â chynnydd fy mhlentyn
✓yn hysbysu’r ysgol am unrhyw bryderon neu broblem a all effeithio ar ymddygiad neu waith fy mhlentyn.
✓yn cymryd cyfrifoldeb am ddefnydd fy mhlentyn o ffonau symudol a rhwydweithiau cymdeithasol

Byddaf fel Disgybl yn gwneud fy ngorau i:


✓fod yn bresennol yn rheolaidd a phrydlon yn unol â gofynion y Gyfraith;
✓dod â’r holl gyfarpar a’r dillad sydd eu hangen bob dydd;
✓gwisgo’r wisg ysgol swyddogol a bod yn drwsiadus fy ngwisg;
✓cwblhau fy holl waith dosbarth, gwaith cwrs a’m gwaith cartref hyd eithaf fy ngallu ac yn brydlon;
✓gwneud ymdrech deilwng i baratoi’n drylwyr ar gyfer arholiadau allanol neu fewnol a/neu brofion cenedlaethol;
✓dangos parch tuag at ddisgyblion eraill a holl aelodau’r staff;
✓gofalu am amgylchfyd yr ysgol a chynorthwyo i gadw’r ysgol yn lân a heb sbwriel;
✓parchu egwyddorion ac ethos Ysgol Benodedig Gymraeg;
✓cydnabod a chefnogi côd disgyblaeth yr ysgol.

Gwybodaeth Dan Sylw
Cytundeb Cartref-Ysgol - Cyfrifoldebau
Bwydlenni wythnosol disgyblion oed cynradd.
Cytundeb Cartref-Ysgol - Cyfrifoldebau
Rhywbeth yn eich poeni?
Rhannu...