Datganiad Gweledigaeth ein Hysgol
Our School Vision Statement

Datganiad Gweledigaeth ein Hysgol

Fel cymuned ysgol, fe ystyriwn hi’n fraint i fod yn arloesi yn addysgiadol yma ym Mro Teifi wrth sefydlu darpariaeth sy’n cynnig dilyniant a pharhad o dan yr un to i’n disgyblion. Bydd yr hyn a gynigir iddynt yn seiliedig yn gadarn ar yr egwyddorion sylfaenol canlynol:

 

  • Sicrhau safonau dysgu ac addysgu rhagorol er mwyn cefnogi ein disgyblion i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog a bydd yn ei dro yn eu paratoi i fod yn ddysgwyr gydol-oes

 

  • Meithrin hinsawdd addysgiadol lle mae staff a disgyblion yn awyddus i arloesi a lle gwelir heriau fel cyfleoedd i ddysgu a datblygu.

 

  • Sicrhau awyrgylch saff, gefnogol sy’n caniatau i’n disgyblion feithrin rhinweddau megis hunan-barch, parch tuag at eraill a charedigrwydd; yn unigolion iach ac hyderus bydd yn barod i fod yn aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

 

  • Cefnogi pob disgybl i ddatblygu sgiliau creadigrwydd ac arloesi; i ddatblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol a datrys problemau; i ddatblygu effeithiolrwydd personol; i ddatblygu sgilau cynllunio a threfnu

 

  • Datblygu ymwybyddiaeth a balchder yn ein cynefin, ein hieithoedd, ein diwylliant a’n traddodiadau ymysg ein disgyblion a fydd yn sail i ehangu eu gorwelion, eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth o gydberthynas Cymru ag Ewrop a’r byd.

 

  • Datblygu perthynas lwyddiannus rhwng yr ysgol, y rhieni a chymuned eang Bro Teifi er mwyn cefnogi dysgu’r disgyblion.

 

Gwybodaeth Dan Sylw
Datganiad Gweledigaeth ein Hysgol
Bwydlenni wythnosol disgyblion oed cynradd.
Datganiad Gweledigaeth ein Hysgol
Rhywbeth yn eich poeni?
Rhannu...