Y Gymraeg ydy prif gyfrwng holl fywyd a gwaith Ysgol Bro Teifi gyda’r nod o sicrhau bod pob disgybl yn medru’r ddwy iaith yn drylwyr hyd at eithaf ei allu / gallu erbyn gadael yr ysgol. Cyflwynir Saesneg i ddisgyblion yn y cwricwlwlm pan mae'r disgybl yn 7 mlwydd oed. Mae Ysgol Bro Teifi yn gweithredu ar yr amcanion canlynol:
Ar gyfer disgyblion oed cynradd, mae ein canolfannau iaith yn cynnig cyfleoedd trochi hwyr i i helpu’ch plentyn i ddysgu Cymraeg mewn amser byr ac yna bydd eich plentyn yn barod i gario ymlaen gyda’i addysg yn y Gymraeg. Gallwch chi ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’ch plentyn ar bwynt mynediad hwyrach fel eu bod yn medru cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn yr Uwchradd wrth drosglwyddo i flwyddyn 7. Gwneir hyn drwy gyfuniad o raglenni trochi a gloywi/carlam.

