Mae cynnal lefel uchel o bresenoldeb yn yr ysgol yn hanfodol os yw disgyblion am gynnal lefel dda o gynnydd yn eu haddysg. Mae gan rieni/gofalwyr ofyniad cyfreithiol i sicrhau bod eu plentyn/plant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd ac ar amser. Mae lefel dda o bresenoldeb yn cael ei ddisgrifio fel bod dros 95% ac mae disgyblion sydd â phresenoldeb o dan 90% yn cael eu hystyried yn absennol yn gyson a gallent fod yn agored i ymyrraeth gan y swyddog cynhwysiant addysg.
Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi fel rhieni/gofalwyr hyrwyddo presenoldeb da gan gynnwys:
Os nad yw'ch plentyn yn gallu mynychu am resymau dilys yna mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r ysgol dros y ffôn neu drwy ap Edulink. Dylech nodi'r rheswm dros yr absenoldeb a phryd rydych chi'n disgwyl iddyn nhw fod yn ôl. Mae'n arfer da i ffonio bob dydd i sicrhau bod cofnodion yr ysgol yn gywir. Mae cydberthynas gref rhwng presenoldeb disgyblion yn yr ysgol a'u llwyddiant fel y nodir isod:
|
Presenoldeb |
Canllawiau Cenedlaethol |
|
95 – 100% |
Y cyfle gorau i lwyddo. Mae’ch plentyn yn cymryd mantais lawn o bob cyfle dysgu. |
|
90 – 95% |
Boddhaol. Efallai y bydd rhaid i’ch plentyn dreulio amser yn dal i fyny â gwaith. |
|
85 – 90% |
Peri gofid. Gallai’ch plentyn fod mewn perygl o dangyflawni ac mae angen cefnogaeth ychwanegol oddi wrthych i ddal i fyny â gwaith. |
|
80 – 85% |
Mae presenoldeb gwael eich plentyn yn cael effaith arwyddocaol ar ddysgu. |
|
o dan 80% |
Mae’ch plentyn yn colli addysg eang a chytbwys. |

