Llwyddodd un tîm i ennill y gystadleuaeth rygbi tag cymysg i flynyddoedd 3 a 4 a llwyddodd tîm arall i ennill y gystadleuaeth rygbi tag i ferched i flynyddoedd 5 a 6. Bu'r 4 tîm yn chwarae yn wych a phob lwc i'r ddau dîm a ddaeth i'r brig wrth iddynt gynrychioli Ceredigion yn Aberystwyth ym mis Mai.






