Mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol rôl y llysgenhadon fydd codi ymwybyddiaeth eu cyd-ddisgyblion a phobl ifanc o’r manteision i barhau gyda’u Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol.
Ymhlith y criw newydd eleni yn Ysgol Bro Teifi mae Erin a Mared. Llongyfarchiadau mawr i'r ddwy ohonyn nhw.
Bydd y llysgenhadon yn dechrau ar eu gwaith y mis yma, a byddant yn datblygu sgiliau amrywiol wrth gynrychioli’r Coleg Cymraeg a’u hysgolion mewn digwyddiadau gan gynnwys rhai o wyliau mwyaf Cymru, ac wrth greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
I wybod mwy am y llysgenhadon ac i ddilyn y cynllun yn ystod y flwyddyn ewch i wefannau cymdeithasol y Coleg Cymraeg.
Tik Tok, Instagram, X a Facebook: @colegcymraeg






