Cynhaliwyd Eisteddfod Cylch Llandysul yn yr ysgol ar ddydd Gwener 23ain o Chwefror. Diolch i bawb a fu wrthi gyda threfniadau'r Eisteddfod. Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn i'r ysgol a phob hwyl i bawb yn yr Eisteddfod Rhanbarth ym Mhontrhydfendigaid ar y 9fed o Fawrth.






