Yn dilyn proses benodi trylwyr, rydym yn falch o gyhoeddi penodiad grŵp newydd o Brif Swyddogion ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd Cadi Rees a Daniel Evans yn ymgymryd â rôl Prif Swyddogion a byddant yn cael eu cefnogi gan bedwar Dirprwy Brif Swyddog sef Erin Thomas, Leisa Thomas, Aeron Dafydd a Bedwyr Llywelyn.
Mae Tîm Arwain yr ysgol a Phennaeth y 6ed dosbarth, Mrs Elinor Morgan, yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â nhw yn y flwyddyn sydd i ddod ac yn dymuno'r gorau iddynt yn eu rolau newydd.





