Llongyfarchiadau gwresog i ddisgyblion talentog Blwyddyn 12 am gyrraedd y brig yn Eisteddfod yr Urdd eleni yng nghystadleuaeth y Siarad Cyhoeddus. Cawsoch ganmoliaeth uchel gan y gwleidydd Rhun ap Iorwerth a wnaeth gyfeirio atoch mewn cyfweliad fel 'sêr y dyfodol.' Pob hwyl hefyd i Daniel a fydd yn teithio i Frwsel am iddo ennill y cadeirydd gorau. Rydym ni'n falch iawn ohonoch.






