Mae cyffro cystadlu Eisteddfod yr Ysgol 2024 wedi cychwyn, am y tro cyntaf erioed cynhaliwyd Siarad Cyhoeddus eleni. Llongyfarchiadau gwresog i bob disgybl am fynegi eu barn yn blwmp ac yn blaen. Roedd canmoliaeth fawr gan y beirniad Dr Cennydd Jones. Llwyddodd bob panel i drafod amrywiaeth o bynciau llosg o annibyniaeth i Gymru i fêps a deallusrwydd artiffisial. Da iawn chi, yn enwedig i'r bobl hynny oedd yn mentro am y tro cyntaf. Mae siarad cyhoeddus yn sgil euraid, daliwch ati!
Diolch hefyd i Dr Cennydd Jones am roi o'i amser i feirniadu.
Canlyniadau
Tîm - 1) Emlyn 2) Teifi 3) Tysul
Siaradwr Gorau - 1) Aeron Dafydd (Emlyn) 2) Bedwyr Llewelyn (Emlyn) 3) Emily Guilford (Teifi)
Cadeirydd Gorau -1) Daniel Evans (Teifi) 2) Leisa Thomas (Emlyn) 3) Erin Griffiths (Tysul)






