Mae Ysgol Bro Teifi yn falch o gyhoeddi adroddiad cadarnhaol iawn gan Estyn, sy'n tynnu sylw at ymrwymiad eithriadol yr ysgol pob oed (3-19) i greu amgylchedd gofalgar, cynhwysol a meithringar i'w disgyblion. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu ymroddiad staff a myfyrwyr fel ei gilydd i feithrin awyrgylch teuluol lle mae pob unigolyn yn cael ei gefnogi i ffynnu yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn bersonol.
O ddysgu sylfaen i'r chweched dosbarth, mae ethos Ysgol Bro Teifi wedi'i grynhoi yn ei arwyddair, 'Oni heuir, ni fedir', sy'n atseinio drwy'r cyfleoedd a ddarperir i ddisgyblion ddatblygu'n ddinasyddion cyfrifol, parchus a charedig. Canmolodd Estyn yr ysgol am sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn gofal a chymorth rhagorol, gan alluogi llawer i wneud cynnydd cryf yn unol â'u hoedran a'u gallu.
Mynegodd y Pennaeth, Gareth Evans, ei falchder yng nghyflawniadau ac ymrwymiad yr ysgol i dwf parhaus:
"Mae'r adroddiad hwn yn dyst i waith caled ac ymroddiad cymuned gyfan ein hysgol. Yn Ysgol Bro Teifi, rydym yn ymdrechu i greu gofod lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi i gyflawni ei botensial. Rydym yn gyffrous i adeiladu ar y llwyddiant hwn a mynd i'r afael â'r argymhellion gyda'r un penderfyniad a gwaith tîm sy'n diffinio ein hysgol."
Dywedodd Lynsey Thomas, Cadeirydd y Llywodraethwyr: "Rwy’n hynod falch o ddisgyblion a staff Ysgol Bro Teifi am eu hymroddiad a’u gwaith caled ac hoffwn eu llongyfarch ar dderbyn adborth cadarnhaol iawn yn yr adroddiad hwn. Roeddwn yn falch bod arolygwyr Estyn wedi gallu gweld beth sydd mor wych am ein hysgol – yn arbennig eu sylwadau am les a gofal ein disgyblion ac am gwrteisi a brwdfrydedd y disgyblion dros ddysgu.
"Mae’r Corff Llywodraethu yn falch iawn o fod yn rhan o dîm mor llwyddiannus ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi’r ysgol ar ei thaith lwyddiannus er mwyn i ddisgyblion Ysgol Bro Teifi gael y profiad addysg a dysgu gorau posib.”






